Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i brynu’r llawysgrif ganoloesol o Gyfreithiau Hywel Dda, sy’n cael ei arwerthu gan Sotheby’s ar 10 Gorffennaf. Teimlwn y dylai Llywodraeth Cymru brynu’r llawysgrif hon ar gyfer pobl Cymru gan naill ai ei harddangos mewn amgueddfa yng Nghymru neu yn Neuadd y Senedd, yn hytrach na’r posibilrwydd bod casglwr preifat yn ei phrynu ac na fydd y cyhoedd fyth yn ei gweld hi eto.
Cyflwynwyd
y ddeiseb gan: Russell
Gwilym Morris
Ystyriwyd
y ddeiseb am y tro cyntaf: 2
Gorffennaf 2012
Nifer y
llofnodion: 53